#

Y Pwyllgor Deisebau | 5 Mawrth 2019
 Petitions Committee | 5 March 2019
 ,Teitl y ddeiseb: P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid. 

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-865

Teitl y ddeiseb: Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn darparu o leiaf un opsiwn bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion ar bob bwydlen ddyddiol i fodloni hawliau figaniaid ac i wneud y mwyaf o fanteision moesegol, manteision amgylcheddol a manteision iechyd deietau figan.

Mae rhagor o bobl o bob oedran yn gwneud y penderfyniad i fyw’n figan, ac mae nifer y bobl yn y DU sy’n figaniaid wed dyblu ddwywaith yn y pedair blynedd diwethaf. Mae rhagor o bobl hefyd yn dewis bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion am resymau iechyd, rhesymau amgylcheddol a rhesymau moesegol.

Mae gan figaniaid yr un amddiffyniadau cyfreithiol â phobl â chredoau crefyddol, oherwydd mae ein hargyhoeddiad moesegol ei bod yn anghywir i ddefnyddio a lladd anifeiliaid nad ydynt yn ddynol yn ddiangen wedi’i ddiogelu’n gyfreithiol. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau rwymedigaeth i ddarparu ar gyfer figaniaid ac i osgoi unrhyw wahaniaethu ar sail figaniaeth. Yn anffodus, er gwaethaf hyn, yn aml mae diffyg darpariaeth ar gyfer figaniaid yn y sector cyhoeddus, ac mae cleifion mewn ysbytai, carcharorion a phlant ysgol yn aml yn llwglyd. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn darparu ar gyfer figaniaid, a byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynorthwyo i gyflawni’r ddyletswydd honno.

Gall pawb fwynhau bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion. Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain yn cydnabod bod deietau planhigion sydd wedi’u cynllunio’n dda yn addas ar gyfer pob oedran a phob cyfnod bywyd. Mae gwaith ymchwil sylweddol wedi cysylltu deietau planhigion â phwysedd gwaed is, lefel colesterol is, cyfraddau is o glefyd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.

Mae deiet sy’n seiliedig ar blanhigion yn well ar gyfer yr amgylchedd a gall leihau ein hallyriadau carbon sy’n gysylltiedig â bwyd hyd at 50 y cant. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi annog newid byd-eang tuag at ddeiet heb ddim cig a llaeth er lles ein planed, ac mae gan Gymru y cyfle i arwain y ffordd.

Y cefndir

Deiet fegan

Mae'r Gymdeithas Fegan yn diffinio figaniaeth fel ffordd o fyw sy’n ceisio gwahardd, cyn belled ag y bo’n bosibl ac yn ymarferol, pob math o fanteisio ar anifeiliaid, a chreulondeb tuag atynt, ar gyfer cael bwyd, dillad nac i unrhyw bwrpas arall. Goblygiad dietegol hyn yw bod feganiaid â deiet sy’n seiliedig ar blanhigion, a’u bod yn osgoi pob cynnyrch anifeiliaid, gan gynnwys cig, pysgod, pysgod cregyn, wyau, llaeth, a mêl.

Mae’r prif resymau a nodwyd dros fabwysiadu deiet fegan yn cynnwys pryder am les anifeiliaid, pryderon am effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd deietau heb fod yn fegan, a manteision iechyd canfyddedig deietau fegan.

Mae cyngor y GIG ar ddilyn deiet fegan yn datgan, gyda chynllunio a dealltwriaeth lawn o ystyr deiet iach a chytbwys, dylai deiet fegan allu darparu’r holl faetholion y mae eu hangen ar y corff, er y gallai atchwanegiadau fod yn angenrheidiol ar gyfer cael rhai maetholion, fel fitamin B12.  Darperir cyngor penodol gan y GIG ar gyfer mamau beichiog a babanod a phlant hefyd. Mae Taflen Ffeithiau ar Ddeietau Llysieuol a luniwyd gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain yn amlinellu rhai ffynonellau o faetholion sy’n ofynnol ar gyfer deiet iach sy’n addas ar gyfer llysieuwyr/feganiaid.

Feganiaeth yn y DU

Roedd astudiaeth a gynhaliwyd gan Ipsos MORI ar ran y Gymdeithas Fegan yn 2016 yn adrodd bod ffigur o 542,000 o bobl 15 mlwydd oed a hŷn (1.05 y cant o’r rhai dros 15 mlwydd oed) yn dilyn deiet fegan, sef cynnydd o 350 y cant ar y ffigur o 150,000 yn 2006. Gwnaeth y BBC adroddiad ar dwf feganiaeth yn 2018: Veganism: Why is it on the up?

Deddfwriaeth Portiwgal

Cymeradwyodd Senedd Portiwgal gyfraith ym mis Mawrth 2017 sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ffreutur yn y sector cyhoeddus ddarparu dewis fegan. Roedd y cam hwn yn dilyn deiseb gan Gymdeithas Llysieuol Portiwgal (Associação Vegetariana Portuguesa) yn 2015 a ddenodd dros 15,000 o lofnodion. Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys cymal sy’n caniatáu eithriad ar gyfer sefydliadau lle nad oes digon o alw am yr opsiwn fegan.

Deisebau a gyflwynwyd i Senedd y DU

Ar hyn o bryd mae'r ddeiseb debyg a ganlyn yn casglu llofnodion ar wefan Senedd y DU: 'Require plant-based options suitable for vegans on public sector menus every day'. Ar adeg ysgrifennu'r briff hwn, roedd y ddeiseb wedi casglu 21,471 o lofnodion. Ymatebodd Llywodraeth y DU ar 28 Tachwedd 2018, gan ddweud: 'Public sector canteens are happy to cater for people with special dietary needs including those eating a vegan diet.’ Bydd y ddeiseb yn cau ar 13 Mawrth 2019.

Roedd deiseb debyg arall, sef 'Put a VEGAN meal on every school, college, university, hospital and prison menu,'wedi'i chyhoeddi ar wefan Senedd y DU cyn iddi gael ei chau ym mis Ebrill 2017. Casglodd 19,012 o lofnodion. Ymatebodd Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2016, gan ddweud: ‘Individual institutions are responsible for the nutrition of their members and being aware of health, religious, cultural and ethical choices: and doing all they can to facilitate that choice.’

Os yw deisebau a gyflwynir i Senedd y DU yn casglu 10,000 o lofnodion, mae Llywodraeth y DU yn ymateb iddynt. Os ydynt yn casglu 100,000 o lofnodion, maent yn cael eu hystyried ar gyfer bod yn destun dadl yn Senedd y DU.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, at y Pwyllgor ar 29 Ionawr 2019, gan gyfeirio at y ddeiseb hon. Dywedodd:

Institutions providing food options within the public sector must be mindful of meeting the demands of their customers, however they are not under any obligation to go further than that required by the law. For example, guidance is available to support the mandatory food and fluid nutrition standards for hospital patients [discussed above]. This guidance stipulates that hospitals must consider the needs of minority groups who require special diets early in the menu planning process. There is a requirement to have policies and procedures in place to ensure that these patient groups can meet their nutritional needs through the provision of appropriate and familiar foods. Special diets refer to cultural or religious needs such as halal or kosher diets. It is recommended than menu planning groups consult patients, local communities and their representatives to confirm their needs.

In the case of this petition it would be a positive step forward for the petitioners to put their case to the decision takers in the various public sector institutions delivering catering services if they feel more should be done, and that this direct engagement and use of guidance will be more beneficial in the long term than further mandation.

Roedd y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013yn nodi’r gofynion ar gyfer bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn nodi unrhyw ofynion penodol o ran darparu dewisiadau fegan, er bod y canllawiau statudol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu rhai 'cynghorion ymarferol' ar sicrhau bod disgyblion sy’n dilyn deiet llysieuol neu fegan yn cael maetholion digonol, fel sicrhau bod dewisiadau fegan ar wahân i laeth yn cael eu darparu. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys o dan rai amgylchiadau penodol, er enghraifft, pan fydd disgyblion neu’u rhieni yn dod â bwyd i mewn, neu pan fydd bwyd yn cael ei ddarparu fel rhan o unrhyw anghenion dietegol a ragnodir yn feddygol.

Mae'r Safonau maeth ac arlwyo Cymru gyfan ar gyfer bwyd a hylif i gleifion preswyl mewn ysbytai (PDF 464KB) yn ei gwneud yn ofynnol bod dewis llysieuol fod ar gael ym mhob pryd bwyd, ond nid ydynt yn ei gwneud yn ofynnol bod opsiwn fegan ar gael. Nodir ym Mhennod 7, ‘Deietau Arbennig a Phersonol’, y bydd y fwydlen ysbyty safonol a ddarperir yn darparu ar gyfer anghenion llysieuwyr sy’n bwyta caws, wyau, a llaeth, ond y bydd amrywiadau o’r deiet hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynllunio ar gyfer anghenion cleifion unigol.

Ar 29 Tachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd ar fwyd a maethiad ar gyfer lleoliadau gofal plant. Ar ddeietau fegan, mae'r canllawiau'n dweud y dylai darparwyr weithio:

...mewn partneriaeth â rhieni/ gofalwyr er mwyn llunio bwydlen addas i'r plentyn yn cynnwys bwydydd y mae'r plentyn yn gyfarwydd â nhw gartref, a pha fwydydd penodol y dylid eu hosgoi e.e. gelatin a cheuled. Efallai y bydd angen i chi ofyn i deuluoedd ddarparu bwydydd priodol a gofyn am gyngor gan ddeietegydd.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae deiseb debyg eisoes wedi'i chyflwyno gerbron y Pwyllgor. Roedd y ddeiseb a ganlyn, P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus, ar agor rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Ionawr 2018, a chasglodd 118 o lofnodion. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb 'am ei bod yn anodd gweld sut y gall y Pwyllgor ei dwyn ymlaen heb gyswllt gan y deisebydd.' Dyma eiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol cynnwys opsiwn fegan ym mhob ffreutur neu wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lle y mae ganddi’r pŵer i wneud hynny.

Mae Senedd Portiwgal wedi cymeradwyo opsiwn fegan gorfodol ym mhob ffreutur cyhoeddus (e.e. ysgolion, prifysgolion, carcharau, ysbytai) – sy’n gam enfawr ar gyfer arlwyo fegan i bawb. Mae dros 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan, ac mae’r ganran yn cynyddu. Mae deiet fegan yn fwy iachus, mae’n arbed adnoddau ac mae’n amddiffyn y blaned ac, yn fwy na dim, nid oes creulondeb yn ei gylch. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw arnom i fwyta rhagor o fwydydd sy’n deillio o blanhigion.  Mae bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid yn gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon.

Mae rhai o'r camau eraill a gymerwyd gan y Cynulliad yn y maes hwn wedi'u rhestru isod, er y dylid nodi nad oedd dewisiadau fegan wedi cael ystyriaeth benodol:

§    Cafodd y ddeiseb a ganlyn, P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru, ei hystyried gan y Pwyllgor presennol a'i ragflaenydd. Roedd y ddeiseb honno'n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio safonau bwyd mewn ysbytai yng Nghymru. Amlygodd y deisebydd nifer o feysydd ble’r oedd yn teimlo bod angen gwelliannau, gan gynnwys lefel y ddarpariaeth bresennol ar gyfer cleifion ag anghenion deietegol. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb ym mis Hydref 2017 yn dilyn ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion (gweler isod), ac yn sgil y ffaith bod y deisebydd wedi mynegi boddhad.

§    Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion yn 2016, fel cam dilynol i ymchwiliad blaenorol a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad. Mae adroddiad y Pwyllgor (Mawrth 2017) (PDF 625KB) yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro 'a yw byrddau iechyd yn cofnodi ac yn diwallu anghenion diwylliannol, anghenion crefyddol ac anghenion dietegol cleifion'. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, ond wedyn ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Pwyllgor yn mynegi pryder nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn gwarantu y byddai argymhelliad y Pwyllgor yn cael ei weithredu’n llawn.

§    Yn ystod y broses o graffu ar y Bil iechyd cyhoeddus a ddaeth yn Ddeddf, sef Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, gwnaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon argymhelliad yn ei adroddiad Cyfnod 1 (PDF 962KB) fod Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â gordewdra a materion eraill o flaenoriaeth ym maes iechyd cyhoeddus, gan gynnwys 'gwneud darpariaeth i roi sail statudol i safonau maeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, cartrefi gofal ac ysbytai'. Derbyniodd y Gweinidog yr egwyddor a oedd yn sail i'r argymhelliad (PDF 186KB), a chadarnhaodd fod gwaith ar y gweill ar safonau maeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a chartrefi gofal (gweler y canllawiau ar fwyd a maethiad ar gyfer lleoliadau gofal plant a drafodir uchod).

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.